Lolland
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 59,456 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Sydhavsøerne |
| Sir | Bwrdeistref Lolland, Bwrdeistref Guldborgsund |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,242.86 km² |
| Gerllaw | Belt Sea |
| Cyfesurynnau | 54.76944°N 11.42444°E |
| Hyd | 58 cilometr |
![]() | |
Un o ynysoedd Denmarc yn y Môr Baltig yw Lolland. Hi yw pedwaredd ynys Denmarc o ran maint, gydag arwynebedd o 1243 km², ac mae culfor Guldborgsund yn ei gwahanu oddi wrth ynys Falster. Mae'n rhan o dalaith Storstrøm, ac roedd poblogaeth yr ynys yn 65,764 yn 2010.
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Nakskov, gyda phoblogaeth o tua 13,000. Tir isel yw'r ynys i gyd, gyda'r pwynt uchaf dim ond 25 medr uwch lefel y môr. Mae'r ynys yn un o ardaloedd lleiaf cyfoethog Denmarc.

